Volunteer/Join us handout/cy

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search

First page

(Underneath logo on left side of page)

"...cefnogwch fynediad y cyhoedd i gynnwys agored, gwyddoniadurol. Cynorthwywch y cyhoedd i gyfrannu at y cynnwys agored hwnnw ac i'w ddefnyddio... "

- Dyfyniad allan o 'Amcanion Elusennol Wikimedia UK'
(In green box on right side of page)

Pan glywch y gair 'Wikimedia' am beth y meddyliwch? Wikipedia, efallai, sef gwyddoniadur mwyaf y blaned? Caiff ei darllen gan hanner biliwn o bobl leled y byd - pob mis! Eto i gyd, mae Wikimedia'n llawer mwy na hyn!

Yn y 21ain ganrif bydd mwy o ffonau clyfar nag o bobl! Ar hyn o bryd, ceir llawer o rwystrau rhag mynediad rhwydd a hawdd i wybodaeth i lawer o bobl ar draws y byd. Weithiau cânt eu hatal rhag derbyn addysg gan dlodi neu wleidyddiaeth ond ar adegau gan drwyddedau caëdig megis "Hawlfraint y Goron", hawlfraint NC "Non-commercial" neu "Hawlfraint Cyngor Sir Rhywle neu'i Gilydd"! Mae miliynnau o adroddiadau, ffotograffiau a ffeiliau eraill allan o gyrraedd y cyhoedd. Ein breuddwyd ni yw datgloi'r cloeon hyn gan roi'r cynnwys ar drwydded agored megis CC-BY-SA fel y gall pob un copa walltog gael mynediad rhwydd a rhydd i'r wybodaeth.

Gall cefnfor o wybodaeth rhydd, fel Wicipedia, wedi'i sgwennu'n wrthrychol, yn niwtral a gyda ffynonellau dibynadwy fod yn arf grymys iawn i genedl fechan. A gyda dros 280 o ieithoedd wedi uno i greu un gwyddoniadur enfawr, mae llais i bawb, o bellter byd a hwnnw'n llais annibynnol, anghonfensiynol, grymus. Prif waith Wikimedia ydy cefnogi golygyddion Wikipedia a'i chwiorydd, ac mae wedi ymglymu i wneud hynny drwy'r byd. Wicipedia (efo "c" ydy'r Wikipedia Cymraeg) ac mae ganddi dros 50,000 o erthyglau. 'Viquipèdia' ydy enw'r Wikipedia Catalaneg ac mae ganddyn nhw dros 400,000 o erthyglau!

Mae Wikimedia UK wedi'i chofrestru'n elusen ac wedi partneru gyda Chymdeithas Wici Cymru i genhadu dros gynnwys agored a gwybodaeth addysgol rhwydd ei chaffael. Gweithiwn i gefnogi miloedd o olygyddion sy'n gweithio o'u tai eu hunain yn adeiladu'r nyth morgrug enfawr hwn a alwn yn Wikipedia. Mae pob brawddeg mae nhw'n ei gyfrannu, pob llun, pob clip sain a fideo yn cael ei drwyddedu ar un o drwyddedau Comin Creu (neu Creative Commons) sef un arall o chwiorydd Wikipedia. Ac mae'r drwydded hon, wrth gwrs yn gwbwl agored!

Drwy wledydd Prydain a Gogledd Iwerddon, rydym yn gweithio gyda galeriau, archifdai, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd o'r radd flaenaf; a gyda'r sefydliadau hyn ymdrechwn i ryddhau gweithiau nad ydynt hyd yma wedi gweld golau dydd. Rydym yn gweithio gyda'r byd addysg ar ddulliau newydd o ddysgu mewn cymuned o fyfyrwyr byd-eang drwy gyhoeddi aseiniadau a phapurau ysgolheigaidd yn fyw ac i bwrpas. Gweithiwn hefyd gyda'r dechnoleg ddiweddaraf i sicrhau fod y Gymraeg, a ieithoedd lleiafrifol eraill, ar flaen y gad digidol. Mae llawer iawn o waith wedi'i ryddhau'n barod, ac yng Nghymru rydym yn hynod o ffodus fod ein llywodraeth gant-y-cant y tu ôl i'n hymgyrchoedd ac yn flaenllaw iawn o ran cynnwys agored. Maent wedi rhyddhau miloedd o ffotograffau cyfoes ar drwydded agored CC-BY-SA ar Flickr. Mae ton o frwdfrydedd yn llifo drwy'r byd - a gallwch chithau fod yn rhan o'r don honno.

Second page

(Bottom right image): File:UK Wikimedian of the Year 2013 - Chris Keating and Robin Owain 1.JPG
(Caption): Chwith: Robin Owain, Rheolwr Wikimedia UK yng Nghymru gyda Chris Keating, Cadair WMUK. Yn y llun mae Chris yn cyflwyno gwobr GLAM i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, enillydd y wobr a gyflwynir yn flynyddol i'r sefydliad mwyaf blaenllaw o ran cynnwys agored, drwy wledydd Prydain a Gogledd Iwerddon.

Y Mudiad Wikimedia

Imagine a world in which every single person on the planet is given free access to the sum of all human knowledge. That's what we're doing.

- Jimmy Wales, sefydlydd Wikipedia, 2004

Unigolion a grwpiau bychain ledled y byd ydy'r mudiad Wikimedia, a'r cyfan yn rhannu'r un amcanion. Perchennog y nod masnach 'Wikimedia' ydy Sefydliad Wikimedia (sef Wikimedia Foundation neu WMF). Mae'n fudiad di-elw wedi'i gofrestru yn Unol Daleithiau America, ac ef yw'r corff sy'n cynnal y gweinyddion cyfrifiadurol. Ar y gweinyddion hyn y saif holl brosiectau Wikimedia. Mae i Sefydliad Wikimedia nifer o rannau, gan gynnwys grwpiau thematig, grwpiau defnyddwyr a siapterau daearyddol megis Wikimedia UK, sef y siapter ar gyfer Wicipedwyr Cymru, yr Alban, Cernyw, Lloegr, Manaw a Gogledd Iwerddon.


(In a pullout box on left side.)

Chwaer brosiectau'r Wikipedia

Y chwaer hynaf yn y teulu ydy Wikipedia, ond mae eraill. Mae'r rhain yn cynnwys Comin Creu, sef stordy digidol o destun, fideo, sain, Wiciadur, Wicidestun (ar gyfer gwaith a gyhoeddwyd megis fersiwn 1911 o Britannica) a Wicilyfrau (casgliad o werslyfrau a llawlyfrau) a Wicidata sy'n crynhoi llawer iawn o wybodaeth yn ganolog megis newid o un iaith i'r llall. Ceir nifer o brosiectau eraill nad ydynt ar gael yn Gymraeg hefyd, megis Wikinews. Mae rhyngwyneb Cymraeg ar gael ar gyfer pob prosiect, a gallwch ei ddewis drwy fynd i 'Dewisiadau' (top dde). Mae'r prosiect Meta'n ymwneud â chodio, a'r dechnoleg sy'n caniatáu i bopeth weithio. Er enghraifft, drwy lafur diflino ein defnyddwyr (ee Lloffiwr) mae Wicipedia ar gael yn Gymraeg ar eich ffonau llaw symudol. Mae holl feddalwedd a chôd Meta wedi'i drwyddedu'n agored, yn rhydd i bawb drwy'r byd ei ddefnyddio.

Cynnwys rhydd

Beth yw cynnwys rhydd? Unrhyw waith creadigol sydd, i raddau helaeth, yn rhydd o hawlfraint a chyfyngiadau cyfreithiol ac y gellir ei ddefnyddio i unrhyw bwrpas dan haul - gall y defnyddiwr elwa'n ariannol o'r defnydd hwnnw, hyd yn oed. Mae'r cynnwys yn rhydd i'w ddefnyddio, i'w astudio a chymhwyso'r hyn a ddysgwyd i'r byd mawr. Gall y darllenwr hefyd ail-ddefnyddio'r cynnwys, ei gopio neu ei addasu a'i wella a rhannu'r gwaith newydd hwn hyd yn oed, cyn belled a bod y gwaith yn cynnwys trwydded gymwys megis CC-BY-SA.

Mae cynnwys rhydd hefyd yn cynnwys gwaith sydd yn y parth cyhoeddus ee gwaith sydd allan o hawlfraint. Fe welwch hefyd ar Wikipedia (ac mae hyn yn cynnwys y Wicipedia Cymraeg) gynnwys sydd wedi'i drwyddedu ar un o drwyddedau Comin Creu (Creative Commons), ac mae'r trwyddedau hyn i gyd yn arddel y gwerthoedd rhydd uchod. Bwriad y trwyddedau hyn yw sicrhau fod y cynnwys, neu'r wybodaeth, ar gael yn rhydd ac am ddim i bawb drwy'r byd, yn storfa gyfeiriol werthfawr na ellir ei rheoli gan na llywodraeth, deddfau hawlfraint caeth na rhagfarn.

Third page

Be a part of the world's largest open knowledge project

Beth ydy prosiect Llwybrau Byw?

Penodwyd Robin Owain yn Rheolwr Wikimedia yng Nghymru, i hyrwyddo'r prosiect hwn. Gall eich cynorthwyo i greu Trefi Wici (fel a wnaed gyda Pedia Trefynwy) drwy gynnig hyfforddiant mewn sgiliau Wicipedia yn y siroedd sy'n ffinio â Llwybr yr Arfordir. Gall hefyd drefnu i hyfforddwyr i weithio gyda grwpiau - megis eich Cymdeithas Hanes Leol - ar wella'r cynnwys ar yr ardal leol yn Gymraeg ac yn Saesneg ac ar Wikivoyage, un o'n chwaer brosiectau.

Mae rhaglen "Digital Tourism Business Framework (DTBF)" y Llywodraeth hefyd wedi cymeradwyo gwaith Wicipedia Cymru yn hyfforddi sgiliau golygu Wicipedia i gymunedol ar hyd Lwybr yr Arfordir. Y nod ydy creu cynnwys cyfoethog a gaiff ei ddefnyddio gan ymwelwyr a mudiadau – o dan drwydded ein chwaer brosiect Comin Creu ("Creative Commons").

Fel y gwyddoch, rwy'n siwr, mae erthyglau Wicipedia'n ymddangos o fewn deg uchaf Gwgl – dros 98% o'r amser, ac mae bod ar Wicipedia yn ychwanegiad amhrisiadwy i unrhyw grwp, gorff neu gymdeithas. Gallem eu cynorthwyo i wneud hyn ar Wicipedia.

Mae'n bosib mai Llwybrau Byw yw'r prosiect mwyaf mae Wikimedia wedi'i ymgymryd ag e'n fyd-eang, Wikipedia ydy'r 5ed gwefan fwyaf drwy'r byd! A Wicipedia Cymraeg ydy'r wefan Gymraeg mwyaf poblogaidd. Mae Cymru ar y blaen!

In Wales the Living Paths project... ????

Sut fedrwch chi weithio gyda ni?

Mae na sawl ffordd cyffrous o gydweithio a chyfrannu i'r mudiad arloesol hwn. Ar y naill law gallwch olygu Wicipedia ac ar y llall gallwch fod yn rhan o weithgaredd megis tynnu lluniau ffotograffig o esgyrn deinosor mewn amgueddfa. Drwy gyd-weithio gyda GLAMs (Galeriau, Llyfrgelloedd, Archifdai a llawer Mwy!) gallwch gael mynediad 'drws cefn' i'w cynorthwyo i ddatod y cloeon a rhyddhau'r cynnwys. Gallwch glywed Wicimediaid o Gatalonia a Brasil yn trafod eu prosiectau nhw neu mi fedrwch hyfforddi grwp o Ferched y Wawr neu'r Aelwyd leol sut i roi hen ffotograffau'r teulu ar erthyglau Wicipedia. Gall staff Wikimedia hefyd gefnogi eich syniadau a'ch cynorthwyo wrth i chi ddatblygu eich sgiliau wici a'ch breuddwydion! Yn fras, ceir 4 rôl:

  • Golygydd - person sy'n cyfrannu cynnwys i un neu ragor o brosiectau wici
  • Cydlynydd digwyddiadau - person sy'n cefnogi ac yn datblygu ein digwyddiadau ar ran Wikimedia UK
  • Trefnydd - person sy'n cydlynu criw o wirfoddolwyr (ee Golygathon)
  • Hyfforddwr - person wedi'i hyfforddi gan Wikimedia UK i hyfforddi sgiliau wici i eraill

Fourth Page

(left side)

Aelodaeth

Gallwch hefyd ein cefnogi drwy ymuno â ni. Gallwch ethol ymddiriedolwyr i'r elusen Wikimedia UK, neu fod yn rhan o gyfarfodydd y mudiad a chewch dderbyn daflen fisol yn llawn newyddion a digwyddiadau cyffrous am y siaptr a'r mudiad.

Aelodau Wikimedia UK sy'n pennu'r tâl aelodaeth, a oedd yn 2013 yn £5 y flwyddyn. Mae hyn yn rhoi'r hawl i chi bleidleisio yng nghyfarfodydd yr elusen a'r hawl i chi wneud cais am nawdd ariannol i wireddu eich dyheadau.


Ymlaen!

Os hoffech wirfoddoli mewn rhyw ffordd neu wneud cais am fod yn aelod gallwch lenwi'r ffurflen ganlynol - a'i bostio am ddim; yna byddwch yn derbyn ebost gyda chyfarwyddiadau sut i ymuno ar-lein neu weithio fel gwirfoddolwr ym mha bynnag faes a hoffech.


(Right side)

Check box - Carwn wybod mwy am waith gwirfoddol oddi fewn i Wikimedia UK. Check Box - Carwn ymaelodi â Wikimedia UK

Llenwch gyda llythrennau breision os gwelwch yn dda:

Enw
Cyfeiriad
Cyfeiriad
Côd Post
Ebost
DefnyddEnw (Os ydych yn golygu Wicipedia) - 'does dim raid i chi ei ddatgelu.)

Check boxes:

Carwn wybod mwy am y rhain: (ticiwch fwy nag un)

  • Digwyddiadau
  • Dysgu sut i olygu
  • Dysgu sut io uwchlwytho delweddau
  • Cynorthwyo i roi cynnwys Galeriau, Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd ac Archifdai ar drwydded cynnwys agored.
  • Gweithio gyda sefydliadau addysgol

Fifth page

Text

Pull out postcard - address side

Background - Pale grey
Wikimedia UK logo - top left
Text: Gill sans

Text

(Top right under stamp outline - subtext 'You don't have to use a stamp, but doing so will save us money.'

Centre

C/o Office Manager

FREEPOST WIKIPEDIA

Right side

Text

  • "It's been great to work with people who weren't all that confident about their digital literacy, who are developing their research skills and who are getting to the point where they're almost confident about editing. It's a great experience." -- Graeme Arnott
  • "Wikipedia is a wonderful hobby and such a great use of my spare time. It allows me to develop my skills as a photographer and writer, through contributing to a world-wide project that is doing something amazing - free knowledge for everyone. I love working and sharing with like-minded people around the globe towards a worthwhile goal." -- Julie Workman
  • "Running training events with Wikimedia UK allows me to not only teach people about how Wikipedia works, but also allows me to gain valuable experience working with other people and learn about different teaching styles. The people that attend the training events are diverse with a wide variety of interests, so it's a great way to meet new, open-minded people and discuss topics related to both Wikimedia projects and the free knowledge movement. The support that Wikimedia UK provides to trainers is crucial to getting these events off the ground, and letting trainers focus on the actual training." -- Dan Garry

Sixth page

Text

Left side
Right side
Wikimedia UK / Wici Cymru
4th Floor, Development House,
56-64 Leonard Street
London
United Kingdom
EC2A 4LT
Website: www.wikimedia.org/wiki/Main_Page/cy
Email: info@wikimedia.org.uk
Facebook: www.facebook.com/WikimediaUK
Twitter: @WiciCymru neu @wikimediauk

Rydym yn croesawu ymwelwyr! Cysylltwch a ni i drefnu cyfarfod neu sgwrs gyda'n Rheolwr neu'r gymuned Wici yng Nghymru.

Images
Left side

Lined up against project name and subline:

[See above]

Right side

Wikimedia UK Logo